SL(6)684 –  Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig

Cefndir a diben

Mae'r Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig ('Cod Ymarfer') yn nodi'r gofynion a'r canllawiau y mae rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â nhw wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau rheoleiddiedig o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('Deddf 2014').

Mae’r Cod Ymarfer hefyd yn cynnwys canllawiau o dan adran 169 o Ddeddf 2014 a chanllawiau o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”).

Er mwyn sicrhau bod gan y Cod Ymarfer hwn rym cymaradwy mewn perthynas â Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru, bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru o dan bwerau a nodir yn Neddf 2006 i arfer eu swyddogaethau yn unol â'r gofynion a gynhwysir yn y Cod Ymarfer hwn wrth arfer eu swyddogaethau priodol.

Gweithdrefn

Drafft negyddol

Rhaid gosod drafft o’r Cod gerbron y Senedd. Os bydd y Senedd, o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw adeg pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod) i’r dyddiad y gosodwyd y drafft, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r Cod drafft, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft), a daw’r Cod i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd yr ugain pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.     Ym mharagraff 1.2, mae'r term "Canllawiau 2009" wedi'i ddefnyddio ddwywaith wrth ymddangos fel pe bai'n cyfeirio at y canllawiau statudol y cyfeirir atynt gyntaf ym mharagraff 1.1, Uwchgyfeirio Pryderon gyda, a Chau Cartrefi Gofal sy'n Darparu Gwasanaethau i Oedolion a ddyroddwyd yn 2009. Fodd bynnag, ni ddiffiniwyd y canllawiau hynny fel “Canllawiau 2009” ym mharagraff 1.1 o’r Cod, ac mae teitl llawn y canllawiau hynny hefyd wedi’i ddefnyddio ym mharagraff 1.2. A ddylid diffinio teitl y canllawiau hynny fel “Canllawiau 2009” ym mharagraff 1.1 a’i ddefnyddio’n gyson bob tro ym mharagraff 1.2?

2.     Ym mharagraff 1.3, mae cyfeiriad anghyflawn at “1.2(b)”, ond dylai nodi “paragraff 1.2(b)” (gweler y croesgyfeiriad ym mharagraff 5.17 i weld enghraifft gywir).

3.     Ym mharagraff 1.4 a pharagraff 1.5, mae cyfeiriadau at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac at Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae'r Deddfau hyn, fodd bynnag, eisoes wedi'u diffinio fel "Deddf 2014" a "Deddf 2006" yn y drefn honno yn y Rhaglith i’r Cod. Felly, dylid bod wedi defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.11 a pharagraff 1.5 o’r Cod.

4.     Ym mharagraff 1.6, mae'r cyfeiriad at “adran 147” yn anghyflawn gan nad yw'n nodi'r Ddeddf y mae'r adran honno i'w chael ynddi. Mae cyfeiriadau eraill at adrannau wedi cynnwys teitl y Ddeddf berthnasol yn gywir wedi hynny.

5.     Ym mharagraff 1.14, yn y frawddeg olaf, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “appropriate monitoring mechanisms” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “gweithdrefnau monitro a gwerthuso priodol”, gan ychwanegu’r gair ‘gwerthuso’.               

6.     Ym mharagraff 3.1, yn y pwynt bwled olaf, mae'n cyfeirio at "darparwr gwasanaeth cofrestredig" a defnyddir y term “registered service provider” tua 5 gwaith yn y Cod Saesneg. Mewn mannau eraill, mae nifer o gyfeiriadau at “darparwr gwasanaeth” yn y Cod. Mae'r term “darparwr gwasanaeth”, fodd bynnag, wedi'i ddiffinio yn yr Eirfa fel person neu sefydliad sydd wedi'i gofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gwasanaeth gofal a chymorth rheoleiddiedig o dan adran 6 o Ddeddf 2016. Felly, dylid defnyddio'r term diffiniedig "darparwr gwasanaeth" ar bob achlysur os nad oes gwahaniaeth ystyr rhwng "darparwr gwasanaeth cofrestredig" a "darparwr gwasanaeth" yn y Cod. Hefyd, gellid dadlau bod y geiriau “sydd wedi’i gofrestru o dan Ddeddf 2016” yn nhrydydd pwynt bwled paragraff 3.1 yn ddiangen ar ôl y geiriau “darparwr gwasanaeth”, oherwydd y diffiniad.

7.     Ym mharagraff 3.4, yn y frawddeg gyntaf, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “Registered service providers” ond yn y testun Cymraeg nodir “darparwyr cofrestredig”, gan hepgor y gair “service”. Ynghyd â hyn, mae arwyddocâd mwy i'r dewis o derm yn nhestunau'r ddwy iaith oherwydd bod “darparwr gwasanaeth” wedi'i ddiffinio yng Ngeirfa'r Cod hwn.

8.     Ym mharagraff 3.5, yn yr ail frawddeg, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “for the well-being of the people of Wales” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “er lles pobl Cymru”. “Llesiant” yw’r term a ddefnyddir fel arfer am “well-being” mewn testun Cymraeg deddfwriaeth yn hytrach na “lles”, ac mae wedi cael ei ddefnyddio’n gyson mewn mannau eraill yn y Cod hwn. Hefyd, defnyddir y gair “lles” yn ddiweddarach ym mharagraff 3.5 hefyd i gyfleu ystyr “welfare”. Felly, ni fydd darllenydd y testun Cymraeg yn gallu gwahaniaethu rhwng “llesiant” (well-being) a “lles” (welfare) ym mharagraff 3.5 o’r Cod.

9.     Ym mharagraff 4.15, paragraff 5.13 a pharagraff 7.11, mae cyfeiriadau at “Rheolwr Cofrestredig”. Fodd bynnag, nid yw'r term hwn wedi'i ddiffinio ag ystyr yn yr Eirfa na darpariaethau eraill y Cod. Felly, nid oes iddo ystyr clir yn y Cod.

10.  Ym mharagraff 4.17 a pharagraff 5.18, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn nhestun Saesneg y ddau baragraff hyn mae'n nodi “process flowchart”, ond nid oes gair nac ymadrodd i gyfleu ystyr “flowchart” yn y testun Cymraeg. Mewn darpariaethau eraill, fel paragraff 6.9 a pharagraff 7.1 a'r Atodiadau, defnyddiwyd y gair “siart lif” i gyfleu ystyr “flowchart” yn gywir yn y testun Cymraeg.

11.  Ym mharagraff 5.26, mae'n cyfeirio at “weithwyr neu reolwyr gofal cymdeithasol cofrestredig”. Nid yw'r termau hyn, fodd bynnag, wedi'u diffinio ag ystyr yng Ngeirfa'r Cod, yn wahanol i'r term "nyrsys cofrestredig" yn y paragraff hwnnw. A oes unrhyw reswm pam nad yw'r termau hynny wedi'u diffinio yn y Cod?

12.  Ym mharagraff 6.3, yn y frawddeg gyntaf, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “the desired outcomes or performance” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “canlyniadau neu’r safonau a ddymunir”, gan gyfieithu “performance” fel “safonau”.

13.  Ym mharagraff 6.7, yn yr ail frawddeg, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “arranged by other commissioning bodies” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “wedi’i drefnu gan gorff comisiynu allanol”, sy’n hepgor y gair “other” ac yn defnyddio’r gair “allanol” yn lle hynny. Mae hefyd yn defnyddio’r ffurf unigol “corff”.

14.  Ym mharagraff 7.5, yn yr ail frawddeg, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “example procedures and plans for responding to the closure” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “enghraifft o weithdrefnau a chynlluniau ar gyfer cau”, gan hepgor y geiriau “responding to”.

15.  Yn nhestun Cymraeg paragraff 7.8, yn y frawddeg gyntaf, mae anghysondeb yn y dewis o air i gyfleu ystyr “identified”. Ym mharagraff 7.7 ac mewn mannau eraill yn y Cod, defnyddiwyd y gair “nodi” i fynegi ystyr “identified” mewn cyd-destun tebyg, ond defnyddiwyd y gair “canfod” ym mharagraff 7.8.

16.  Ym mharagraff 7.9, yn y frawddeg gyntaf, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “must assess a carer’s needs” ond yn y testun Cymraeg mae’n nodi “rhaid… asesu anghenion gofalwr di-dâl” gan ychwanegu’r gair “di-dâl”.

17.  Yn Atodiad A, ar dudalen 25, yn y siart lif, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn yr ail flwch i lawr yn y canol sydd â chefndir llwydfelyn, mae'n nodi mewn print trwm “Contract performance management meeting with service provider”. Ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “Cyfarfod rheoli perfformiad y contract gyda’r darparwr”, gan hepgor y gair “gwasanaeth”. Mae'r un gwahaniaeth ystyr hefyd yn digwydd yn y frawddeg gyntaf yn union ar ôl y geiriau hynny yn yr un blwch. Fel y soniwyd eisoes, mae “darparwr gwasanaeth” yn derm a ddiffinnir yn yr Eirfa sy’n cyd-fynd â’r Cod.

18.  Yn Atodiad A, ar dudalen 25, yn y siart lif, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y pedwerydd blwch i lawr yn y canol sydd â chefndir llwydfelyn, mae'n nodi “risks, breaches in required standards and agreed actions”. Ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “y meysydd gwella a’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt” gan hepgor y geiriau ”risks, breaches in required Standards” ac yn mewnosod  y geiriau “y meysydd gwella”. Ynghyd â hyn, mae fformat y blwch hwn yn eithaf gwahanol yn nhestun y ddwy iaith yn y siart lif.

19.  Yn Atodiad C, ar dudalen 27, yn y siart lif, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y blwch ar waelod y dudalen sydd â chefndir pinc, yn yr ail linell, mae'n nodi “(see also Regulated Care and Support Services – Closure Flowchart…)”. Ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “(gweler hefyd y Siart Lif ar gyfer Cau Gwasanaethau Gofal Rheoleiddiedig)”, gan hepgor y geiriau “and Support”.

20.  Yn Atodiad D, ar dudalen 30, yn y siart lif, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y blwch ar waelod y dudalen sydd â chefndir glas golau, mae'n nodi “Regulated Service Closure Team”. Ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “Tîm Gwasanaeth Rheoleiddiedig”, gan hepgor y gair “Closure”.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwyntiau adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10 Rhagfyr 2025